
Datgloi byd o fuddion i chi a'ch ysgol trwy ddod yn aelodau gwerthfawr o CYDAG. Ymunwch â ni heddiw er mwyn cael mynediad at gyrsiau hyfforddiant a chyfleoedd rhwydweithio, a sicrhau llais i’ch ysgol ac i addysg Gymraeg.
“Mae dod yn aelod o CYDAG wedi bod yn amhrisiadwy i'n hysgol. Argymhellir yn gryf!”
Manteision
Cyrsiau hyfforddiant
Rhwydweithiau proffesiynol
Cyfleoedd i rannu arfer da
Cynadleddau blynyddol
Mynediad i adnoddau digidol
Llais a chefnogaeth
Gostyngiad gydag ystod o bartneriaid
Ymaelodi gyda CYDAG
Mae aelodaeth o CYDAG yn agored i unrhyw ysgol Gymraeg neu ddwyieithog. Drwy ymaelodi gyda CYDAG byddwch yn elwa ar ystod o gyfleoedd, gan gynnwys cyfleoedd i rwydweithio a rhannu arfer dda, cyrsiau a rhaglenni hyfforddiant, cynadleddau, adnoddau unigryw, a’r sicrwydd o lais dros addysg Gymraeg a chefnogaeth i’w ffyniant.
Ymunwch gyda CYDAG heddiw er mwyn elwa ar gyfleoedd fydd yn cefnogi, grymuso ac ysbrydoli eich ysgol!
Dewiswch gategori aelodaeth isod yn seiliedig ar niferoedd y disgyblion yn eich ysgol.