‘Yr Ysgol Sgwrsio’ - Podlediad gan dîm CYDAG yn trafod addysg, addysgeg a phob math o faterion o bwys i ysgolion.

Podlediadau

• Pennod 1
Yr Ysgol Sgwrsio
Addysgu Tu Hwnt i Gymru
Sioned Wyn Jones

Mae Sioned bellach yn athrawes yn Ysgol Gynradd Llandegfan, Ynys Môn ond cyn hynny, bu'n addysgu yn Ysgol yr Hendre Trelew, Patagonia ac yn Ysgol Gymraeg Llundain. Yn y bennod hon, mae Sioned yn siarad am ei phrofiadau o addysgu tu hwnt i Gymru a sut mae hynny wedi ei siapio hi i fod yr athrawes ydi hi heddiw.

• Pennod 2
Yr Ysgol Sgwrsio
Arweinyddiaeth
Gwyn Jones

Mae Gwyn yn bennaeth profiadol yn Ysgol Croes Atti, Sir y Fflint ac yn gwneud gwaith arbennig i hyrwyddo a datblygu addysg Gymraeg o fewn y sir. Yn y bennod hon, mae Gwyn yn siarad am ei brofiadau fel pennaeth ac am arweinyddiaeth yn y sector cynradd yn gyffredinol.

• Pennod 3
Yr Ysgol Sgwrsio
Blynyddoedd Cynnar
Laura Dobson

Mae Laura yn ddarlithydd blynyddoedd cynnar ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, ond cyn hynny, bu’n athrawes ac yn arweinydd y cyfnod sylfaen yn Ysgol Mynydd Bychan, Caerdydd. Yn y bennod hon, byddwn yn trafod addysg blynyddoedd cynnar yn gyffredinol, profiadau Laura o weithio ar draws pob oedran o’r cyfnod sylfaen, a’r gwaith o addysgu plant yn yr ysbyty.

• Pennod 4
Yr Ysgol Sgwrsio
Arweinyddiaeth 2
Meilir Tomos

Mae Meilir yn bennaeth yn Ysgol Glan Morfa, Caerdydd ac yn gwneud gwaith arbennig i gefnogi nifer o ddisgyblion sydd yn dod o gefndiroedd difreintiedig ac yn llwyddo i hyrwyddo a datblygu addysg Gymraeg yn ardal Splott o’r brifddinas. Yn y bennod hon, mae Meilir yn siarad am ei brofiadau fel pennaeth ac am arweinyddiaeth yn y sector cynradd yn gyffredinol.

• Pennod 5
Yr Ysgol Sgwrsio
Asesu a Chynnydd CiG
Gethin Môn Thomas

Mae Gethin yn ymgynghorydd addysg annibynnol sy’n gweithio gydag ysgolion cynradd ac uwchradd Cymru a dros y ffin i ddatblygu eu cwricwlwm. Cyn iddo fod yn ymgynghorydd, roedd yn athro addysg gorfforol yn Ysgol David Hughes, Ynys Mon, cyn symud ymlaen i weithio i gonsortia addysg Gogledd Cymru. Yn y bennod hon, bydd Gethin yn ein helpu i ddeall asesu a chynnydd yn y Cwricwlwm i Gymru - pwnc sydd o ddiddordeb i nifer o ysgolion ar hyn o bryd.

• Pennod 6
Yr Ysgol Sgwrsio
Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb
Judith Roberts

Mae Judith yn nyrs, athrawes ac ymgynghorydd iechyd a lles annibynnol sydd wedi gweithio gyda sawl ysgol, dalgylch ac awdurdod lleol i'w hyfforddi, cynghori a’u harwain ar sut i addysgu iechyd a lles. Ar hyn o bryd, mae hi’n treulio’r rhan fwyaf o’i hamser yn cefnogi ysgolion ar addysg cydberthynas a rhywioldeb. Yn y bennod hon, bydd Judith yn trafod sut i addysgu’r Cwricwlwm Cydberthynas a Rhywioldeb, a sut i oresgyn rhai o’r heriau mae ysgolion ar draws Cymru yn eu hwynebu wrth wneud hynny.

• Pennod 7
Yr Ysgol Sgwrsio
Lles
Jayne Davies

Mae Jayne yn bennaeth yn Ysgol Gymraeg Brynsierfel, Sir Gaerfyrddin ond ar hyn o bryd mae hi ar secondiad gyda’r consortia addysg lleol fel Ymgynghorydd Strategol y Gymraeg Mewn Addysg. Yn y bennod hon, byddwn yn trafod pob agwedd ar les. Ers i Jayne gael ei phenodi’n bennaeth ar yr ysgol, mae sawl astudiaeth achos Estyn wedi cael eu hysgrifennu am y gwaith arbennig mae’r ysgol wedi ei wneud i gynyddu lles yn yr ysgol, a’r effaith mae hynny wedi gael ar y plant a’r gymuned ehangach.

• Pennod 8
Yr Ysgol Sgwrsio
Datblygu’r Gymraeg
Lee James

Mae Lee yn bennaeth yn Ysgol Gynradd Brynaman. Ar ol eu harolwg yn Hydref 2023, cafodd yr ysgol ei chanmol am sut mae’n nhw’n llwyddo i ysgogi’r disgyblion i siarad Cymraeg. Yn dilyn hyn, mae Estyn wedi rhannu eu harferion mewn astudiaeth achos arfer effeithiol. Yn y bennod hon byddwn yn trafod yr hyn mae Ysgol Gynradd Brynaman yn ei wneud i ddatblygu’r Gymraeg i ennill y clod haeddiannol gan Estyn.

• Pennod 9
Yr Ysgol Sgwrsio
Trawma
Sian Griffith a Sara Williams

Mae Sian yn athrawes yn Ysgol y Tywyn, Ynys Môn, ond ar secondiad fel athrawes ymgynghorol plant mewn gofal yn yr awdurdod lleol ar hyn o bryd. Mae Sara yn athrawes yn Ysgol Gynradd Kingsland, Caergybi. Yn ychwanegol i’w gwaith arferol, mae Sara a Sian yn hyfforddwyr ar gyfer Trauma Informed Schools - sefydliad sy’n darparu hyfforddiant ar gyfer y gweithlu addysg ar sut i ddelio gyda disgyblion sydd ag anghenion emosiynol neu broblemau iechyd meddwl. Yn y bennod hon, byddwn yn trafod y wyddoniaeth a’r seicoleg tu ôl i’r problemau hyn, a beth allwn ni ei wneud i fod o gymorth i rai o’r disgyblion hyn.

• Pennod 10
Yr Ysgol Sgwrsio
ADY
Mr Trystan Williams

Cyn haf 2024, cafodd Trystan ei benodi fel Arweinydd Cenedlaethol ADY (yr iaith Gymraeg).  Yn y bennod hon byddwn yn trafod ei rôl newydd a phopeth arall o dan yr ymbarél anghenion dysgu ychwanegol.  Cyn hynny, mae Trystan wedi bod yn Bennaeth Cynorthwyol a Chydlynydd ADY yn Ysgol Plas Mawr yng Nghaerdydd.