Trosolwg
Mae'n bleser gan CYDAG gyflwyno hyfforddiant 'Sut i adael y llyfrau yn yr ysgol? Asesu a rhoi adborth yn effeithiol ar gyfer cynnydd' sydd yn cael ei gynnal ar y 12fed o Fawrth yng Nghanolfan Fusnes Conwy dan arweiniad Mr Gareth Coombes. Bydd yr hyfforddiant yn amlinellu strategaethau sydd angen ei rhoi mewn lle i athrawon allu rhoi adborth llafar effeithiol ynghyd a chael y disgyblion i hunan asesu/asesu cymheiriaid ar gyfer cynnydd yng nghyd-destun iaith a rhifedd ac yn drawsgwricwlaidd. Cost am y diwrnod yw £130, neu £100 i aelodau. Bydd lluniaeth a chinio'n cael ei ddarparu ar y diwrnod.
Trosolwg o Gynnwys y Cwrs
1. Adnabod man cychwyn dysgwyr ar gyfer cynnydd
2. Sicrhau amgylchedd ac adnoddau safon uchel ar gyfer cefnogi a herio dysgwyr ar lawr y dosbarth
3. 'Pit stops' effeithiol i dderbyn ymatebion safon uchel
4. Defnyddio enghreifftiau o destunau da er mwyn sicrhau gallu'r disgyblion i adlewyrchu, gwella a gwneud cynnydd
5. Adborth llafar effeithiol a sut i roi'r camau nesaf
6. Defnyddio strategaethau promptio i sicrhau cynnydd yn y broses dysgu
7. Sut i gael y disgyblion i hunan asesu ac asesu cymheiriaid yn llwyddiannus