Trosolwg o Hyfforddiant ‘Nol at Ein Coed’ - Bethesda, Gwynedd
Mae gwasanaethau gofal plant yng Nghymru dan bwysau mawr. Mae data diweddar yn dangos bod 1 o bob 4 plentyn yng Nghymru yn byw mewn tlodi, gyda llawer yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae’r heriau hyn yn pwysleisio’r angen am strategaethau syml ac effeithiol i athrawon gefnogi iechyd a datblygiad emosiynol disgyblion.
Ar ôl cwrs ymarferol a difyr o ddau ddiwrnod, byddwch yn deall manteision Ysgol Goedwig, yn gweld pa mor hygyrch yw gweithgareddau naturiol, ac yn teimlo’n hyderus i fynd yn ôl i dir yr ysgol gyda dulliau newydd i hyrwyddo lles emosiynol dysgwyr. Byddwch hefyd yn archwilio sut mae bioffilia – ein cysylltiad â natur – yn cryfhau gwydnwch dysgwyr, gan eu helpu i ddeall a rheoli eu hemosiynau yn well.
Bydd y cwrs yn cael ei hwyluso gan Nia Dooley, athrawes brofiadol ac arweinydd Ysgol Goedwig gyda chymhwyster llawn ym maes lles mewn natur a Nia Jewell, creawdwr yr adnodd Mewn Glôb, a ddatblygwyd gyda chefnogaeth seicolegydd clinigol plant. Mae’r adnoddau hyn, sydd wedi derbyn cydnabyddiaeth gan Estyn, wedi dangos eu gwerth yn gwella presenoldeb dysgwyr ac yn cynnig cefnogaeth arbennig i blant sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.
Bydd Nia a Nia yn eich tywys trwy weithgareddau sy’n datblygu hyder, sgiliau ymarferol, a dulliau i wella lles disgyblion drwy cysylltedd natur.
Trefn y dydd
Diwrnod 1: Mewn Glôb a Chysylltedd Natur
Cyflwyniad a Chyfarfod
Cychwyn y dydd gyda phaned wrth y tân, gan drafod amcanion y cwrs a phwysigrwydd cysylltu â natur.
Cysyniad Mewn Glôb a Lles Bioffilia
Trafod sut mae natur yn cefnogi lles corfforol ac emosiynol trwy bioffilia a newrowyddoniaeth, gan helpu i reoleiddio’r system nerfol.
Gweithgareddau Ymarferol
• Archwilio’r goedwig trwy’r synhwyrau, gan ddarganfod “y pethau bychain” mewn natur.
Adnodd Mewn Glôb
Cyflwyno'r adnodd - gweithgareddau ymarferol ar gyfer y dosbarth
Cinio a Thrafodaeth
Amser i drafod profiadau’r bore.
Allweddi Aur- Ymchwilio sut mae cysylltiad byr â natur yn hyrwyddo tawelwch meddyliol i ddysgwyr ac addysgwyr.
Adlewyrchu a Chloi’r Diwrnod
Sesiwn ymlacio adlewyrchu a pharatoi ar gyfer y diwrnod nesaf.
Diwrnod 2: Natur- risg neu budd?
Croeso a Phaned
Cychwyn gyda chyflwyniad i weithgareddau’r diwrnod.
Ysgol Goedwig a Dysgu Sgiliau Ymarferol
• Adeiladu tân, defnyddio offer llaw sylfaenol, a chreu gyda deunyddiau naturiol.
• Trafod asesu risg a manteision.
Cinio a Thrafodaeth
Trafodaeth ar werth cysylltiad â natur ar gyfer iechyd corfforol a meddyliol.
Gweithgareddau Creadigol
Creu gyda deunyddiau naturiol yn seiliedig ar egwyddorion Mewn Glôb - Allweddi Aur
Cloi’r Cwrs
Sesiwn myfyrio i grynhoi’r profiadau a phwysleisio manteision gweithgareddau awyr agored.
Crynodeb o Fuddion
1. Cysylltu â Natur i Hyrwyddo Lles
Hyrwyddo iechyd meddwl ac emosiynol trwy natur.
2. Dysgu Ymarferol
Datblygu sgiliau ymarferol sy’n cefnogi dysgu trwy brofiad.
3. Integreiddio â’r Cwricwlwm i Gymru
Defnyddio gweithgareddau awyr agored fel adnodd dysgu i gefnogi lles ac addysg amgylcheddol.
Cysylltiadau Cwricwlwm
Mae’r cwrs hwn yn cefnogi Cwricwlwm i Gymru trwy:
• Wella lles corfforol ac emosiynol (Addysg Ffisegol a Lles).
• Hyrwyddo datblygiad personol trwy hyder a gwaith tîm.
• Annog ymwybyddiaeth amgylcheddol a pharch at natur.