Trosolwg
'Mae Estyn yn nodi fod ysgolion effeithiol gyda 'dealltwriaeth dda o gynnydd ar draws eu cwricwlwm, yn cydweithio'n gyson gydag ysgolion a sefydliadau eraill er mwyn dyfnhau eu dealltwriaeth o gynnydd ac yn rhannu dulliau ymarferol ar gyfer addysgu ac asesu'. Mae'r hyfforddiant hwn yn edrych ar sut all athrawon gynllunio ac asesu ar gyfer cynnydd yn y tymor byr a chanolig wrth wneud cynnydd yn glir ac eglur i'r dysgwyr.
Nod yr hyfforddiant:-
-Sut mae cynnydd da yn edrych a sut mae'r dysgwr yn gwybod hynny?
-Sut ydym yn cynllunio ar gyfer cynnydd yn y tymor hir a byr?
-Sut allwn ddatblygu cynllunio tymor canolig effeithiol i wneud cynnydd yn glir i'r dysgwyr?
-Pa strategaethau allwn ddefnyddio yn y dosbarth ac ar draws yr ysgol i wneud cynnydd yn rhan integredig i'r broses o ddysgu?'