Trosolwg
Mae pontio effeithiol yn broblem enfawr sydd heb ei ddatrys eto mewn addysg," meddai’r Athro David Hargreaves.
Mae’r sesiwn ryngweithiol ac egnïol hon dan arweiniad Dave Harris, awdur “Independent Thinking on Transition,” wedi’i chynllunio’n benodol ar gyfer ysgolion Cymru i fynd i’r afael â’r heriau critigol o bontio rhwng camau addysgol.
Mae Dave yn gyn-bennaeth uwchradd profiadol sydd wedi awduro 3 llyfr poblogaidd; 'Brave Heads', 'Independent Thinking on Transition' a 'Leadership Dialogues'. Bellach, mae Dave yn rhoi ei holl amser i hyfforddi ac wedi llwyddo i ysbrydoli ei gynulleidfaoedd ar draws y Deyrnas Unedig a thramor.
Trwy archwilio’r “7 Cam i Bontio” a amlinellir yn llyfr cydnabyddedig Dave, bydd y diwrnod hwn yn ymdrin â:-
• Y rhesymau tu ôl i’r bwlch rhwng camau.
• Strategaethau ymarferol a gweithredol i sicrhau pontio llwyddiannus i bob plentyn.
• Sut gall pontio effeithiol helpu i ddatrys heriau a osodir gan y Cwricwlwm Newydd Cymreig.
P’un a ydych yn bennaeth cynradd neu uwchradd, bydd y sesiwn hwn yn eich arfogi gyda’r mewnwelediadau a’r offer angenrheidiol i bontio bwlch, creu parhad, a gwella canlyniadau i fyfyrwyr. Peidiwch â cholli’r cyfle hwn i wneud gwahaniaeth pendant yn eich ysgol a’ch dalgylchoedd.