Back to All Events

Hyfforddiant ‘Sut i gynllunio yn y foment?’ gyda Anna Ephgrave

  • Llety Parc Aberystwyth, Wales United Kingdom (map)

Trosolwg

Ymunwch ag Anna Ephgrave, addysgwr, ymgynghorydd ac awdur blaenllaw, ar gyfer diwrnod hyfforddiant ysbrydoledig ac ymarferol sydd wedi’i gynllunio i drawsnewid eich arferion blynyddoedd cynnar. Gyda dros 27 mlynedd o brofiad, gan gynnwys arwain timoedd Blynyddoedd Cynnar a gafodd sgôr ‘Rhagorol’ gan Ofsted, mae Anna yn eiriolwr brwd dros ddysgu dan arweiniad y plentyn ac yn greawdwr y dull arloesol ‘Cynllunio yn y Foment’.

Mae arbenigedd Anna mewn dysgu drwy chwarae, meithrin annibyniaeth, ac arsylwi effeithiol wedi helpu nifer o addysgwyr i greu amgylcheddau dysgu ysgogol, ymatebol ac o ansawdd uchel. Bydd y diwrnod hyfforddi ymarferol hwn yn rhoi’r strategaethau, yr hyder a’r ysbrydoliaeth sydd eu hangen arnoch i wella’ch lleoliad ac i gefnogi datblygiad pob plentyn.

Peidiwch â cholli’r cyfle unigryw hwn i ddysgu gan un o arbenigwyr mwyaf dylanwadol ym maes Blynyddoedd Cynnar!

Previous
Previous
20 June

Cynhadledd Haf Pwyllgor Penaethiaid Uwchradd y Gogledd