Back to All Events

Rhaglen 'Ein Llais Ni' - Diwrnod 1

  • Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant Carmarthen, Wales, SA31 United Kingdom (map)

Trosolwg o’r Rhaglen

Bydd y rhaglen yn addas ar gyfer pob athro, cynradd ac uwchradd ac yn canolbwyntio ar ddatblygu llafaredd Cymraeg ar draws y cwricwlwm

 

Dyma’r math o gynnwys sydd i’r rhaglen:

Diwrnod 1:

  • Deall pwysigrwydd llafaredd a sgiliau cyfathrebu a’u cyfraniad allweddol tuag at gyflawni’r pedwar diben

  • Cyfle i ddefnyddio adnoddau ymarferol Ein Llais Ni i fyfyrio ar ansawdd darpariaeth a safonau llafaredd Cymraeg ar draws y cwrciwlwm

  • Defnyddio’r ‘4 Cam Athro’ i gefnogi addysgeg da a chynllunio profiadau siarad a gwrando Cymraeg cyfoethog

 

Diwrnod 2:

  • Cynllunio ar gyfer defnyddio dulliau digidol i ysgogi a chofnodi tasgau llafar

  • Datblygu technegau trafod effeithiol mewn grŵp i godi hyder pob dysgwr wrth siarad a gwrando’n gydweithredol

  • Dulliau ac adnoddau ar gyfer cynllunio ac asesu dilyniant a chynnydd mewn sgiliau siarad a gwrando

 

Diwrnod 3:

  • Cwestiynu effeithiol - datblygu sgiliau cwestiynu’r athro i wella cyfraniadau’r dysgwyr a dyfnhau eu dealltwriaeth

  • Strategaethau defnyddiol i ddatblygu geirfa er mwyn gwella sgiliau llythrennedd a dealltwriaeth ar draws y Meysydd Dysgu a Phrofiad

  • Dod a pawb efo chi!! Adnoddau a chanllawiau ar gyfer hunanwerthuso ac arwain gwelliant drwy’r ysgol

 

Fe fydd disgwyl i bob mynychydd i ddefnyddio gwybodaeth o’r diwrnod i gynllunio a threialu cyfleoedd ymarferol ar gyfer eu dosbarth i’w trafod yn ystod diwrnod 2 a 3.

Previous
Previous
4 February

Fforwm CADY Uwchradd y De

Next
Next
7 February

Cyfarfod Pwyllgor Penaethiaid Uwchradd y De (Rhithiol)