15.5.24 - Hyfforddiant Dr Coral Harper

Ar y 15fed o Fai, cynhaliwyd hyfforddiant gan gyfarwyddwr ‘Trauma Informed Wales’, Dr Coral Harper.  Esboniodd Dr Coral Harper beth sy’n digwydd yn yr ymennydd a’r corff pan mae plentyn yn profi digwyddiadau trawmatig.  Aeth yn ei blaen i egluro sut mae hyn yn gallu arddangos ei hun ar ffurf ymddygiad y plant gan nodi beth allwn ni fel oedolion ei wneud i’w cefnogi.  Roedd yn ddiwrnod hynod o ddiddorol gyda nifer o’r mynychwyr yn nodi eu bwriad i wneud newidiadau yn eu hysgol yn dilyn yr hyfforddiant.:-

“Hyfforddiant o'r safon uchaf. Hyfforddwyr yn wybodus ac yn cyflwyno'r cynnwys mewn ffordd hwylus, dealladwy ac wedi son am eu profiad personol yn y maes yma. Wedi cynnwys strategaethau ymarferol defnyddiol iawn. Roedd wirioneddol yn hyfforddiant o'r safon uchaf - diolch!”

“Byddaf yn rhannu'r wybodaeth, ac yn defnyddio'r wybodaeth i lunio strategaethau sy'n addas ar gyfer ein hysgol.”

The Printer's Son

A UK based creative that designs, develops, and styles websites for individuals and small businesses.

http://www.theprintersson.com
Previous
Previous

Gweithdy Rap Ed Holden

Next
Next

25.4.24 - Rhwydwaith Tracio ac Asesu Cynnydd CYDAG