Back to All Events
Trosolwg
Mae hi'n bleser gan CYDAG a’r Mudiad Meithrin i gyflwyno 'Cynhadledd Trochi yn y Blynyddoedd Cynnar'. Prif nod y gynhadledd ydi rhannu'r strategaethau fwyaf effeithiol i drochi plant yn y Gymraeg ynghyd a'r wyddoniaeth tu ôl i ddatblygiad iaith a sut mae trochi'n effeithio disgyblion gydag ADY. Bydd dwy ysgol yn cyflwyno astudiaethau achos o'u harferion effeithiol a chawn gyflwyniad gan arbenigwyr mewn trochi hwyr. Hefyd, bydd cyfle i chi ryngweithio a thrafod gydag ysgolion ledled Cymru am eu trefniadau i ddatblygu'r Gymraeg.