Back to All Events

Diwrnod 2 - 'Sut i gynllunio'r cwricwlwm ACaRh?' (Rhithiol) gyda’r Ymgynghorydd Iechyd a Lles Plant a Phobl Ifanc, Judith Roberts.

Trosolwg

Bwriad y gweithdai yw tywys athrawon drwy’r broses o gynllunio ACRh ysgol gyfan er mwyn cyrraedd y gofynion gorfodol a chydymffurfio â’r Canllawiau a’r Cod ACRh Cymru. Bydd hefyd yn gyfle i gyd-drafod a rhannu arfer dda ymysg ysgolion cynradd Cymru.

Yn ystod yr hyfforddiant bydd Judith yn rhannu’r holl ddogfennau sydd wedi eu creu ar eich cyfer yn ystod cyfnod y gweithdai ac erbyn diwedd y 3ydd gweithdy, bydd ysgolion wedi eu harfogi i:

-sefydlu ACRh ysgol gyfan

-cynnal awdit ACRh ysgol gyfan

-ymgynghori gyda’r dysgwyr

-cynllunio ACRh ysgol gyfan

-mapio’r holl raglen ACRh ar gyfer pob blwyddyn ysgol

-adnabod cyfleoedd hyfforddi staff yr ysgol

-defnyddio’r holl ddogfennau sydd ar gael yn hyderus

-bod yn ymwybodol o’r adnoddau sydd ar gael i gyflwyno ACRh

-rhannu gwybodaeth a chynnal trafodaethau gyda’r Llywodraethwyr a rhieni/gofalwyr

Previous
Previous
7 February

Cyfarfod Pwyllgor Penaethiaid Uwchradd y De (Rhithiol)

Next
Next
17 February

Rhaglen Uwch Arweinwyr y De: Darllen