11.12.24 - Hyfforddiant Gwaith Coed yn y Blynyddoedd Cynnar gyda Mr Pete Moorhouse
Yn ystod mis Tachwedd a Rhagfyr, cynhaliwyd cyfres o ddiwrnodau gyda’r arbenigwr Mr Pete Moorhouse. Mae Pete yn adnabyddus iawn ym myd addysg am ei waith am greadigrwydd a gwaith coed yn y blynyddoedd cynnar ac wedi siarad mewn cynadleddau ar draws y byd. Fel y disgwylir, roedd y diwrnod hyfforddiant yn boblogaidd iawn a chynhaliwyd diwrnodau yn Llandudno, Aberystwyth, Caerfyrddin a Chaerdydd.
Rydym yn gobeithio fod pawb fynychodd wedi mynd i ati i weithredu’r hyn oedd Pete yn ei argymell a bod plant ysgolion Cymraeg yn mynd ati i greu campweithiau. Bydd Pete yn dal fyny gyda’r ysgolion fynychodd yr hyfforddiant ym mis Medi gyda sesiwn ar-lein.