27.09.24 - Cynhadledd Genedlaethol CYDAG Uwchradd
Ar ddiwedd Medi, cynhaliwyd cynhadledd flynyddol CYDAG Uwchradd yng Ngwesty Llety'r Parc, Aberystwyth. Braf iawn oedd cael croesawu dros dri chwarter yr ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg a dwyieithog i'r achlysur arbennig. Thema'r diwrnod oedd: ‘O ble ddaw’r arweiniad ar gyfer arweinwyr ysgolion o hyn allan?’
Ar adeg pan mae penaethiaid ysgolion yn ansicr am newidiadau cenedlaethol sylweddol, nod y gynhadledd oedd gwneud synnwyr o’r cyd-destun hynny, i ddysgu mwy am y ffordd ymlaen, ond hefyd i ddysgu mwy am y cyfeillion, cyfranwyr a’r cyrff sydd ar gael i’n helpu ni. Cafwyd cyflwyniadau gwerthfawr gan gynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, Estyn, S4C, Cyngor y Gweithlu Addysg a'r Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Ynghyd a'r cyflwyniadau swyddogol, cafwyd cyfleoedd i rwydweithio, a chyfle i drafod a holi cwestiynau pwysig. Mewn ffurflenni gwerthuso, testun balchder mawr i CYDAG oedd bod pawb a fynychodd yn cytuno neu'n cytuno'n gryf fod thema'r gynhadledd fod yn briodol a'r sesiynau'n fuddiol iawn ar gyfer arweinwyr ysgolion y sector. Edrychwn ymlaen yn fawr iawn at groesawu arweinwyr ysgolion CYDAG i’r gynhadledd flynyddol nesaf yn 2025!