21.6.24 - Hyfforddiant Pie Corbett ‘Talk4Writing’

Cynhaliwyd hyfforddiant ‘Talk4Writing/Pie Corbett’ gyda’r hyfforddwraig swyddogol, Carol Satterthwaite, yn Aberystwyth ar 21ain o Fehefin. Arddangoswyd strategaethau ar sut i rannu storiau gyda phlant ar lafar gan greu symudiadau i gyd-fynd a’r testun. Bydd hyn yn arfogi’r plant i allu adrodd y storiau eu hunain ac i ddefnyddio’r eirfa maen nhw’n ei ddysgu yn eu hysgrifennu.

Yn sgil y cydweithio, mae CYDAG yn falch o gyhoeddi fod Pie Corbett wedi rhoi’r hawl i CYDAG gyfieithu adnoddau swyddogol ‘Talk4Writing’ i’r Gymraeg. Bydd y rhain yn barod yn gynnar yn 2025.

“Roedd canllawiau clir ar sut i ddefnyddio strategaethau Talk for Writing er mwyn gwella sgiliau iaith disgyblion. Roedd yr adnoddau i gyd-fynd gyda'r strategaethau yn ddefnyddiol- rwy'n edrych ymlaen at dderbyn popeth yn y Gymraeg.’”

“Roedd yn fuddiol iawn i gael y cyfle i gael yr hyfforddiant 'Pie Corbett' yn iawn ac i gael y gwahanol rannau o'r broses wedi torri lawr a'u hesbonio. Roedd cael eglurhad ar linell amser y broses yn ddefnyddiol, yn ogystal ag awgrymiadau o adnoddau ac ardaloedd dosbarth sydd yn cefnogi'r broses.”

The Printer's Son

A UK based creative that designs, develops, and styles websites for individuals and small businesses.

http://www.theprintersson.com
Previous
Previous

25.6.24 Cynhadledd ‘Beth sydd cyn cam cynnydd 1?’

Next
Next

Gweithdy Rap Ed Holden