25.6.24 Cynhadledd ‘Beth sydd cyn cam cynnydd 1?’

Ar y 25ain o Fehefin, cynhaliwyd cynhadledd ar y cyd a’r Mudiad Meithrin gyda ffocws ar sut all ysgolion cynradd ddefnyddio’r ‘Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir’ yn y blynyddoedd cynnar. Dechreuodd y diwrnod gyda chyflwyniad gan yr arbenigwraig blynyddoedd cynnar adnabyddus - Kym Scott. Rhannodd Kym y pwysigrwydd o ddysgu drwy chwarae a sut mae plant ieuengaf ein hysgolion cynradd yn elwa o’r dull hwn o addysgu.

Fe wnaeth Dr Glenda Tinney o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, gyflwyno’r ‘Cwricwlwm ar gyfer lleoliadau meithrin a ariennir nas cynhelir’ yn fanylach a rhoi enghreifftiau sut all ysgolion weithredu’r cwricwlwm yn effeithiol. Siaradodd Gayle Shenton a Nia Evans o Adran Dysgu Sylfaen Llywodraeth Cymru am fanteision ac addasrwydd defnyddio’r cwricwlwm yn ein hysgolion cynradd gan argymell mai dyma’r cwricwlwm dylai ysgolion ddefnyddio yn y blynyddoedd cynnar.

Yn y prynhawn, cyflwynodd Ysgol Tyle’r Ynn ac Ysgol Eifion Wyn astudiaethau achos ar y ffordd maen nhw wedi mabwysiadu’r cwricwlwm a sut llwyddon nhw i’w roi ar waith.

I gloi, cafwyd cyflwyniad gan Jonathon Cooper AEM, Estyn. Cadarnhaodd bod Estyn yn cefnogi ysgolion i ddefnyddio’r cwricwlwm hwn ar gyfer y blynyddoedd cynnar. Yn dilyn ei gyflwyniad aeth ati i ateb cwestiynau gan y gynulleidfa.

“Roedd yn ddiwrnod gwerthfawr ac ysbrydoledig!”

‘“Cyflwyniadau arbennig yn son am bwysigrwydd dysgu trwy chwarae a syniadau gwych ar fel mae newid yr ardal ddysgu i ehangu profiadau a’r ddarpariaeth rydym yn rhoi i’r plant.’

‘“Trefn y diwrnod yn wych - theori gan siaradwyr ysbrydoledig megis Kym Scott; yna theori ar waith drwy astudiaethau achos ysgolion; ac yna sicrwydd pendant fod Estyn yn cydnabod ac yn ‘fodlon’ efo’r hyn a gyflwynwyd er mwyn rhoi’r hyder i fynd ati i arbrofi / mireinio y ddarpariaeth ayb.”

The Printer's Son

A UK based creative that designs, develops, and styles websites for individuals and small businesses.

http://www.theprintersson.com
Previous
Previous

Hyfforddiant Codio - ‘O’r Meithrin i Flwyddyn 6’ gyda Mr Guto Aaron

Next
Next

21.6.24 - Hyfforddiant Pie Corbett ‘Talk4Writing’