Noson Gymdeithasol CYDAG
Noson cyn ein cynhadledd flynyddol ar gyfer ysgolion cynradd, cynhaliwyd noson gymdeithasol. Cafodd mynychwyr eu hysbrydoli gan sgwrs gan y rhedwraig eithafol, Lowri Morgan. Roedd y gynulleidfa’n gallu uniaethu gyda rhai o’r heriau meddyliol byddai Lowri’n eu wynebu wrth redeg marathon ultra, gan eu rhoi mewn cyd-destun arwain ysgol. Yn dilyn y sgwrs, cafodd y gynulleidfa bleser o wrando ar lais hudolus Elidyr Glyn wrth iddo berfformio set acwstig o ganeuon Bwncath ac ambell i glasur Cymreig. Roedd hi’n noson wych ac yn braf cael gweld rhai o’n harweinwyr yn cael cyfle i ymlacio.