Hyfforddiant Codio - ‘O’r Meithrin i Flwyddyn 6’ gyda Mr Guto Aaron

Cynhaliwyd hyfforddiant codio ‘O’r Meithrin i Flwyddyn 6’ gyda Mr Guto Aaron mewn 4 lleoliad ar draws Cymru. Roedd yr hyfforddiant yn boblogaidd iawn ymysg ein ysgolion ac ni chafodd y mynychwyr eu siomi! Cyflwynwyd nifer o syniadau ar sut i ddatblygu’r sgil o godio a sut i’w gymhwyso wrth i ddealltwriaeth a gallu’r plant esblygu drwy’r ysgol gynradd. Nid yn unig roedd Guto’n rhannu torreth o weithgareddau effeithiol, ond dangosodd sut oedd y gweithgareddau hynny yn clymu i’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol. Cafodd y mynychwyr gynllun ysgol gyfan a mynediad i wefan Guto sydd yn cynnwys mwy o syniadau a gweithgareddau.

“Rwy’n teimlo llawer mwy hyderus yn addysgu codio nawr gyda banc mawr o weithgareddau posib.”

“Wedi cynnig llawer o syniadau am weithgareddau i’w gwneud ar lawr y dosbarth, hefyd wedi fy helpu i fagu hyder i ddefnyddio rhaglenni codio.”

Previous
Previous

Rhwydwaith ADY

Next
Next

25.6.24 Cynhadledd ‘Beth sydd cyn cam cynnydd 1?’