Cynhadledd Flynyddol CYDAG Cynradd 2024
‘Datblygu Diwylliant Cynhwysol’ oedd thema ein cynhadledd ar gyfer y sector cynradd yn Llandrindod eleni. Dechreuodd y gynhadledd gyda chroeso gan Brif Weithredwr CYDAG, Dr Gwennan Schiavone a’r Arweinydd Cynradd, Rhodri Gwyn Jones. Y siaradwr cyntaf oedd Trystan Williams, Cydlynydd Cenedlaethol ADY. Rhoddodd Trystan gyflwyniad ar y gwaith yr oedd yn ei wneud i gefnogi disgyblion a CADYs mewn ysgolion Cymraeg a dwyieithog. Yr ail gyflwynyd oedd yr enwog Dr Ioan Rees. Prif neges ei sgwrs oedd sut all arweinwyr ddatblygu diwylliant cynhwysol o fewn yr ysgol ar gyfer staff, plant a rhieni fel bod gan ysgolion, fel sefydliadau, weledigaeth glir a’r ymrwymiad a’r ewyllys i hunanwella. Roedd cynnwys ei gyflwyniad wir yn effeithiol ac yn herio pawb i gymryd cam yn ol, a hunanadlewyrchu ar eu gweithdrefnau presennol. Cyn cinio, cafwyd cyflwyniad gan Sioned Thomas o ‘Niwroamrywiaeth Cymru’ ar sut all y sefydliad fod o gymorth i ysgolion, gan hefyd gyflwyno strategaethau syml gall sefydliadau eu mabwysiadu er mwyn cefnogi disgyblion sydd yn niwroamrwyiol.
Yn y prynhawn, cyflwynodd Dr Rebecca Ward ei gwaith ymchwil ynglŷn â dwyieithrwydd a phlant gydag anghenion dysgu ychwanegol. Roedd ei chanfyddiadau’n dangos yn glir nad yw dysgu ail iaith yn creu anhawsterau ychwanegol i ddisgyblion ADY, ac fe roddodd y neges hon hyder i’n hysgolion ddelio gydag unrhyw gamddealltwriaeth gan rieni ynghylch y mater yn y dyfodol. Siaradwr olaf y dydd oedd Rhian Kenny o Trauma Informed Wales. Rhoddodd Rhian gyflwyniad llawn gwybodaeth ar beth yw trawma a sut dylai ysgolion ddelio gyda’u disgyblion fwyaf bregus. Cafodd y gynhadledd ei chloi gan Gadeirydd Pwyllgor Gwaith Cynradd CYDAG a Phennaeth Ysgol y Bedol yn Sir Gar, Mr Gethin Richards.
Llongyfarchiadau i Ysgol Twm o’r Nant am ennill cystadleuaeth a gynhaliwyd ar y dydd i ennill adnodd gwerth £150 gan y cwmni Community Playthings.