Rhwydwaith ADY
Cynhaliwyd diwrnod arbennig yn Aberystwyth ar yr 2il o Hydref, 2024, gyda CADY’s a Phenaethiaid ar draws Cymru’ n dod ynghyd i rwydweithio a rhannu gweithdrefnau ADY eu hysgolion. Rhoddodd Trystan Williams, Cydlynydd Cenedlaethol ADY, gyflwyniad ar y gwaith mae’n ei wneud i gynorthwyo disgyblion ADY mewn addysg Gymraeg, a chafwyd sesiwn holi at ateb fuddiol yn dilyn hynny.
Yn dilyn cyflwyniad Trystan, cafwyd cyflwyniadau gan ddwy ysgol oedd wedi eu hargymell gan Estyn fel ysgolion sydd gydag arferion hynod effeithiol wrth gefnogi disgyblion ADY - Ysgol Aberaeron ac Ysgol Gymraeg Castell-nedd. Roedd y ddau gyflwyniad yn gyfraniad arbennig i’r diwrnod ac yn gyfle i bawb a fynychodd drafod a myfyrio ar arfer dda.
Dyma sylwadau rai o’r mynychwyr:
“Diddorol iawn clywed am systemau ADY yn yr ysgolion eraill, a chael gwybod ein bod ni ar y trywydd cywir!”
‘“Hyfryd oedd clywed sut oedd pethau’n gweithio mewn ysgolion arall.”